Dyma fideo byr i ddangos sut mae gosod GMail i fod yn y Gymraeg

Haciaith.com - Gmail yn y Gymraeg!

Wedi ei ysgrifennu yn wreiddiol ar gyfer Haciaith.com - Gmail yn y Gymraeg!

Newyddion mawr heddiw, mae’r Comisynydd Iaith (Meri Huws) wedi cyhoeddi bod Google yn mynd i gwneud fersiwn Cymraeg o’r gwefan e-bost poblogaidd “Gmail” ar gael yn y Gymraeg. Dywedodd Meri Huws:

Mae technoleg gwybodaeth yn rhan ganolog o’n bywydau bob dydd – byddwn yn ei defnyddio yn yr ysgol neu yn y coleg, yn y gwaith ac yn y cartref - ac mae’n bwysig felly fod siaradwyr Cymraeg yn gallu defnyddio’r iaith ar-lein. Mae’r ffaith bod Google, cwmni rhyngwladol ac enw cyfarwydd ar draws y byd, wedi penderfynu cynnig Gmail yn Gymraeg yn dangos y pwys y mae cwmnïau rhyngwladol yn ei roi ar ddatblygu technoleg yn Gymraeg, ac mae’n gosod esiampl i gwmnïau eraill, yn ogystal ag i ddefnyddwyr.” Cafodd Gmail ei gyfieithu gan ddefnyddio system Translator Toolkit Google sef system cof cyfieithu soffistigedig yn y cwmwl sy’n cynnwys peiriant cyfieithu peirianyddol Google Translate. Cafodd y gwaith ei reoli gan swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac wedyn, Comisiynydd y Gymraeg ar y cyd â Google.

Dwedodd Google:

Mae Google yn canolbwyntio ar sut y gall ein hoffer helpu i ddiogelu ac adfywio ieithoedd lleiafrifol er mwyn eu gwneud yn fwy perthnasol, yn arbennig i’r genhedlaeth ifanc. Rydym wrth ein bodd felly, fod Gmail ar gael yn Gymraeg – y ddiweddaraf o 57 iaith – gan ein bod yn gwybod bod galw am dechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Dwi yn sicr yn hapus dros ben gweld rhagor o gyfleusterau a gwefannau ar gael yn y Gymraeg, ac yn hapus gweld cyd-weithio rhwng y Bwrdd, Y Comisiynydd a chwmnïau fel Google. Mae’r newyddion bod rhannau o’r gwaith wedi ei ‘wneud gan gyfrifiaduron (ac wedi ei gwirio gan aelodau o’r Bwrdd a swyddfa’r Comisiynydd) hefyd yn rhoi gobaith fydd system fel Google Translate yn gwella trwy gael mynediad i bentwr fawr o gyfieithiadau safonol.

Mae’r rhyngwyneb Cymraeg i fod ar gael o fore ‘fory ymlaen, a fydda ni yn dod a fwy o fanylion pan bod nhw ar gael!

Rhydychen a Gemau Bwrdd

Dros y penwythnos, ddaru mi teithio lan i Rydychen i ymweld â ffrindiau yno - y tro cyntaf i mi rili fynd yno, a chael cyfle i wario’r penwythnos yn cerdded o gwmpas a dweud “oh waw! nes i weld y tamaid ‘na ar Inspector Morse!” (ie, oedd fy ffrind yn ddwli ar ‘ny…).

Un o’r pethau gwych arall oedd cael cyfle i chwarae rhai o gemau bwrdd o’i chasgliad. Fel rhan helaeth ohonoch, dwi’n siŵr mai ond pethau fel Monopoly neu Cluedo ddaru chi chwarae wrth dyfu lan. Ond, tra bod fi’n byw yn Aberystwyth, ddaru mi ddod yn fwy cyfarwydd hefo maint y diwydiant gemau bwrdd… mae’n ANHYGOEL i weld faint sydd i’w gael.

Dau o’r gemau diddorol ddaru ni cael cyfle i chwarae oedd Hour of Glory: Stronghold a 7 Wonders

Hour of Glory: Stronghold

Gêm ddiddorol, 4 person yn chwarae, 3 fel yr Allies, a 1 fel yr Almaen. Mae rhaid i’r Allies torri fewn i fortress yr Almaenwyr a dwyn dogfennau, ac mae rhaid i’r Almaen ei rhwystro nhw. 

Hour of Glory - Stronghold

Wrth fynd o gwmpas, mae’r Allies yn gorfod ceisio torri fewn i swyddfeydd i ddwyn dogfennau. Mae ‘na warchodwyr o gwmpas, ac mae rhaid i’r Allies ceisio ei lladd nhw heb dynnu sylw. Mae’r Almaenwyr yn gorfod ceisio symud o gwmpas y lle, casglu adroddiadau a gwylio allan am yr Allies.

Y peth fwyaf diddorol am hwn yw ei fod o yn erbyn y cloc, mae torri trwy ddrws yn cymryd amser, ac mae cuddio yn iawn yn cymryd fwy… a gyda’r cloc yn rhedeg allan ar ddiwedd pob tro o gwmpas y bwrdd, mae’r awr yn rhedeg allan yn gyflym.

7 Wonders

Da ni gyd yn chwarae rôl gwareiddiad fel Groeg, neu’r Aifft, a da ni’n symud trwy amser yn ceisio adeiladu ein grym. Mae rhaid casglu cardiau sy’n rhoi adnoddau fel pren, gwydr neu frics i adeiladu pethau fel llysoedd, byddin neu farchnadoedd. Da ni’n gallu prynu pethau gan ein cymdogion, ac efallai ein “Wonder” (e.e. Y Pyramidiau). 

7 Wonders

Da ni’n symud trwy 3 oes, mae’r 1af a’r 2il yn gadael i ni gasglu adnoddau, tra bod y 3ydd yn gadael i ni adeiladu urddau (fel urdd yr adeiladwyr, neu urdd ysbiwyr).

Lot o hwyl, a dwi’n awyddus i ddod a fwy o rain i’ch sylw chi… cadwch olwg!

[Flash 9 is required to listen to audio.]

Ges i gyfle ychydig dros bythefnos yn ôl i recordio peilot ar gyfer podlediad newydd ‘gic’ gyda’n ffrindiau da Osian “@osianllew” Edwards a Gareth “@Madeley” Madeley. Angen ychydig mwy o waith, ond dwi’n eithaf sicr bydd hwn yn rhywbeth blydi ossym.

Arbrofi

Dwi wedi penderfynu arbrofi trwy symud y cynnwys Cymraeg i’r platfform Tumblr. Mae ceisio cadw blog dwyieithog (ar http://www.randomlyevil.org.uk) wedi bod yn anodd rhywsut, gan fy mod i’n teimlo bod *rhaid* gwneud yn sicr bod popeth wedi ei gyfieithu’n gywir wedi nadu fi rhag ysgrifennu pethau sydd efallai yn ddibwys, a dwi’n meddwl efallai bod neb yn hollol hapus gyda’r peth.

Roedd hi’n eithaf anodd hefyd ceisio gweithio allan pwy oedd yn darllen mewn pa iaith, a bydd symud i blatfform ar wahan yn help dod i ddeall maint y gynulleidfa, a datblygu “llais” a phlatfform am y pethau dwi’n gwneud yn y Gymraeg.